Yn gyfrifwyr sefydledig gyda chysylltiadau da yn y gymuned leol - gallwn gynnig pecyn cefnogaeth gynhwysfawr i chi.
Rydym yn cynnig gwasanaethau cyfrifo, archwilio a threth draddodiadol gan gynnwys cymorth i’r rhai sy’n defnyddio platfformau cyfrifo ar-lein.
Ac, wrth gwrs, byddwch yn delio gyda chyfrifwyr siartredig cymwys, wrth law i’ch helpu drwy gydol y flwyddyn.
Archwiliad a Chyfrifo
I unig fasnachwyr, partneriaethau, cwmnïau ac elusennau
Gwasanaethau treth
Hunanasesiad, Treth Gorfforaethol, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddu
Cynllunio
Cynlluniau busnes, cynllunio olyniaeth, mentora a datblygiad busnes
Gallwn gynghori ar sut i wella a datblygu eich busnes.
Os ydych angen strategaeth busnes integredig, mynediad i gyllid corfforaethol neu gyngor treth arbenigol – rydym yma i’ch helpu i gyrraedd eich nod.
Gyda phrofiad helaeth, rydym yn falch o allu cynnig gwasanaeth digyffelyb i’n holl gleientiaid, beth bynnag eu maint neu sector.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth Busnes Buddsoddi trwy ein cwmni gwasanaethau cyllid Cadnant Cyf.
Hunanasesiad
Mae gennym yr arbenigedd a’r meddalwedd i’ch arbed rhag y cur pen o gwblhau’r ffurflen a rhoi cyngor ymarferol i chi ynghylch sefyllfaoedd treth personol a’r cyfleoedd cynllunio sydd ar gael. Gallwn gwblhau ffurflenni treth ar eich rhan, cyfrif unrhyw atebolrwydd treth ar eich cyfer a’ch cynghori ynghylch pryd yn union ddylech chi wneud eich taliadau a faint ddylech chi ei dalu.
Cynllunio Treth Personol
Ymchwiliadau Cyllid y Wlad
Gwasanaeth Ymchwilio Treth
Gwasanaeth Treth Corfforaeth
Treth Etifeddu
Mae’n bwysig wrth gynllunio i drosglwyddo stad bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud. Mae sicrhau’r cydbwysedd priodol yn galw am sgiliau a blaengaredd sylweddol – ynghyd â gwybodaeth fanwl am y drefn dreth bresennol. Rydym yn darparu gwasanaeth cynllunio stad cynhwysfawr a chyfrinachol sy’n cynnwys:
- cymorth gyda chynllunio ac adolygu ewyllys;
- gwneud defnydd llawn o eithriadau a chyfraddau treth is ar drosglwyddiadau oes;
- manteisio i’r eithaf ar drosglwyddiadau oes rhwng aelodau o’r teulu;
- trosglwyddo eiddo amaethyddol neu fusnes;
- trosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth; a
- trefnu yswiriant bywyd digonol i dalu am atebolrwydd posibl yn gysylltiedig â threth etifeddiaeth.
Treth ar Werth (TAW)
- cymorth gyda chofrestru ar gyfer TAW;
- cyngor ynghylch cynllunio ar gyfer a gweinyddu TAW;
- defnydd o’r cynllun mwyaf priodol;
- rheoli a chysoni TAW;
- cymorth gyda chwblhau ffurflenni TAW;
- cynllunio i sicrhau cyn lleied o broblemau yn y dyfodol gyda’r adran Tollau Tramor a Chartref; a
- trafod gyda’r adran Tollau Tramor a Chartref mewn unrhyw anghydfod a’ch cynrychioli mewn tribiwnlys TAW os oes angen.
Y Gyflogres a Chynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Cadw Llyfrau
Cynllunio Busnes a Rhagolygon
Cysylltu â banciau a sefydliadau
Ymgynghoriaeth Reoli
System Gwybodaeth Rheoli
Dewis Meddalwedd
Gwasanaethau Ariannol
Mae gennym gwmni gwasanaethau ariannol ar wahan o'r enw Cadnant Cyf.
Mae Cadnant Cyf yn Gynrychiolydd Apwyntiedig i Wasanaethau Ariannol Elidir Financial Services, sydd wedi ei awdurdodi a'i Reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Perchennog Gwasanaethau Ariannol Elidir Financial Services yw Euryn Owen, sydd ymgynghorydd ariannol anibynnol gyda phrofiad helaeth iawn. Bydd unrhyw gleient i ni sydd angen cyngor ariannol yn cael eu cyfeirio at Cadnant, a gall cyfarfodydd gael eu cynnal yn ein swyddfeydd neu yn eich lleoliad busnes neu gartref.
Rydym yn parhau i adeiladu ar ein enw da o gynnig cyngor effeithiol a gwasanaeth gyffelyb heb ei ail i unigolion a busnesau.
Ein ffioedd
Gyda’r posibilrwydd o dalu’n fisol neu’n flynyddol, gall gostau fod cyn lleied a £20 + TAW y mis gyda phris sefydlog am 3 mlynedd i gwsmeriaid newydd .
Prisiau | yn dechrau o |
Cwblhau Hunanasesiad ad-daliad treth | £50 y flwyddyn |
Paratoi cyfrifon Unig Fasnachwr | £200 y flwyddyn |
Paratoi cyfrifon Partneriaeth | £300 y flwyddyn |
Paratoi cyfrifon Cwmni Cyfyngedig | £400 y flwyddyn |
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth yswiriant Ffi Ymchwiliad Treth ble bydd ein yswirwyr yn talu eich ffioedd ar gyfer costau delio gydag ymchwiliad HMRC.
Dyma beth mae rhai o'n cleientiaid yn meddwl
“prompt and efficient service and always very helpful”
“cyfeillgar, effeithiol, drwy gyfrwng y Gymraeg”
“gwasanaeth rhwydd, syml ac effeithiol”