Mae’n swyddfeydd wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, Pwllheli ac Aberystwyth gyda phresenoldeb rheolaidd yng Ngherrig y Drudion a Chaerdydd. Yn gwmni dwyieithog, mae pob un o’n staff yn hapus i helpu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gyda’ch cyfarfod cyntaf am ddim - peidiwch ag oedi, cysylltwch i weld sut gallwn ni eich helpu.
Ffurflen Wê
Cysylltwch â'r swyddfa
Owain Bebb a'i Gwmni Cyf.
32 Y Maes
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 2NN
T 01286 675916
F 01286 677634
E post@owainbebb.net
Cysylltiadau Caernarfon
Rhys Harris rhys@owainbebb.net
Dafydd Davies dafydd@owainbebb.net
Peter Williams peter@owainbebb.net
Sulwen Roberts sulwen@owainbebb.net
Math Emyr math@owainbebb.net
Debbie Williams post@owainbebb.net
Owain Bebb a'i Gwmni Cyf.
20 Penlan
PWLLHELI
Gwynedd
LL53 5DE
T 01758 612646
F 01758 701580
E angela@owainbebb.net
Cysylltiadau Pwllheli
Iona Hughes iona@owainbebb.net
Elan Hughes elan@owainbebb.net
Nerys Woodland nerys@owainbebb.net
Angela Moore angela@owainbebb.net
Owain Bebb a'i Gwmni Cyf.
202 Ty Harbwr
Y Lanfa
ABERYSTWYTH
Ceredigion
SY23 1AS
T 01970 607920
F 01970 611478
E dafydd@owainbebb.net
Cysylltiadau Aberystwyth
Dafydd Davies dafydd@owainbebb.net
Rhys Harris rhys@owainbebb.net
Ychydig amdanom ni
Wedi ei sefydlu gan Owain Bebb (1940 - 2003) yn 1974, mae Owain Bebb a’i Gwmni wedi bod yn gweithio yn ardaloedd Caernarfon a Pwllheli ers dros 40 mlynedd. Mae presenoldeb wedi bod gan y cwmni yng Ngherrig y Drudion ers yr 1980au, Caerdydd yn fwy diweddar gyda’r cwmni yn agor ei swyddfa newydd yn Aberystwyth ym Mai 2016.
Ein tîm o gyfrifwyr
Rhys Harris FCA - Cyfarwyddwr

Ymunodd Rhys ag Owain Bebb a’i Gwmni yn 1987 wedi cymhwyso yn Deloitte Haskins & Sells, Abertawe yn 1985 a chyfnod byr yn WJ Matthews & Son, Caernarfon yn 1986.
Yn bartner ers 1990, daeth Rhys yn brif bartner wedi marwolaeth Owain Bebb yn 2003.
Wedi ei addysgu yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgol Aberystwyth gyda BSc mewn Amaethyddiaeth, mae Rhys yn arbenigo mewn amaeth, ffilm a theledu, busnesau teuluol, treth ac ymgynghori ynghylch gwella elw.
Mae Rhys wedi ei leoli yng Nghaernarfon a Phwllheli ac yn teithio i Gerrig y Drudion, Chaerdydd ac Aberystwyth yn aml.
E-bost : rhys@owainbebb.net
Iona Hughes FCCA - Cyfarwyddwr
Iona Hughes BA FCCA
Addysgwyd Iona Hughes yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Phrifysgol Bangor, ble enillodd radd BA mewn Cyfrifo a Chyllid, yna aeth ymlaen i gymhwyso gyda Griffith Williams & Co, Pwllheli, gan gymhwyso fel ACCA yn 1997. Derbyniodd Iona wobr am y marc uchaf yn fyd-eang yn y papur Fframwaith Archwilio a’r marc cydradd drydydd yn fyd-eang yn y papur Arferion Cyfrifo ac Archwilio.
Wedi ymuno ag Owain Bebb a’i Gwmni yn 2002, daeth Iona yn bartner yn 2004. Yn rhedeg ein swyddfa ym Mhwllheli mae hi’n arbenigo mewn treth, cwmnïau masnachu cyffredinol a busnesau teuluol.
E-bost: iona@owainbebb.net
Elan Hughes FCA
E-bost: elan@owainbebb.net
Dafydd Davies FCCA
Dafydd Davies BScEcon FCCA
Wedi ei fagu ym myd amaeth mae gan Dafydd brofiad mewn cynghori ffermydd ar sut i strwythuro eu busnesau a phrosesau yn effeithiol gyda strategaeth treth effeithlon.
Mae ganddo brofiad lawr gwlad o’r sector SME a felly mae mwyafrif o waith Dafydd wedi ei ganolbwyntio ar gynghori’r farchnad busnesau bychain.
Gyda mwy a mwy o gwmnïau ac unigolion yn defnyddio pecynnau cyfrifo cwmwl, gall Dafydd gynnig cyngor ar becynnau rheoli cyllid sy’n cefnogi busnesau wrth dyfu.
E-bost: dafydd@owainbebb.net